Amgueddfa Wrecsam i gau dros dro fel rhan o brosiect ailddatblygu

Bydd Amgueddfa, Caffi ac Archifau Wrecsam yn cau dros dro am gyfnod byr fel rhan o brosiect ailddatblygu ‘Amgueddfa Dau Hanner’.

Bydd y prosiect yn gweld creu Amgueddfa Bêl-droed newydd i Gymru ochr yn ochr ag Amgueddfa Wrecsam wedi’i hadnewyddu’n llawn yn adeilad presennol yr amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw yn Wrecsam – atyniad cenedlaethol mawr newydd i Ganol Dinas Wrecsam.

Bydd y cau dros dro ym mis Awst yn caniatáu i rywfaint o waith cychwynnol gael ei wneud. Mae gwaith ailddatblygu llawn i fod i ddechrau ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae disgwyl i’r Amgueddfa Bêl-droed ac Amgueddfa Wrecsam ar ei newydd wedd agor yn 2026.

Dyddiadau cau llawn

Bydd orielau’r amgueddfa ar gau o ddydd Gwener 4 Awst ac yn ailagor o ddydd Sadwrn 12fed.
Bydd Caffi a siop y Courtyard ar gau o 2.30pm ddydd Gwener 4 Awst ac yn ailagor o ddydd Sadwrn 12 Awst.

Ni fydd ymwelwyr yn cael mynediad i’r orielau ar 4 Awst – dim ond y caffi a’r siop tan 2.30pm.
Bydd ystafell chwilio’r Archifau ar gau o ddydd Gwener 4 Awst a bydd yn ailagor o ddydd Llun 14 Awst.

Cynnydd gwych yn cael ei wneud

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts: “Rydym nawr yn gweld cynnydd mawr yn cael ei wneud yn natblygiad yr atyniad newydd mawr hwn i ganol y ddinas. Yn ogystal â’r gwaith adeiladu, rydym hefyd bellach wedi penodi cynllunwyr gweithgareddau ar gyfer y prosiect, mae ein tîm wedi dechrau cynnal teithiau treftadaeth pêl-droed yn Wrecsam, ac mae ein swyddogion ymgysylltu amgueddfeydd pêl-droed wedi bod yn gweithio’n helaeth gyda chlybiau a chymunedau ledled Cymru, gan feithrin cysylltiadau a casglu straeon.

“Bydd gan y tîm stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yr wythnos nesaf – cyfle gwych arall i ymgysylltu â chynulleidfaoedd cenedlaethol a lledaenu’r gair am yr hyn rydym yn ei wneud yma yn Wrecsam.

“Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi mwy o ddatblygiadau cyffrous ar gyfer y prosiect wrth iddo barhau i symud ymlaen dros y misoedd nesaf.”

Darganfod mwy am brosiect yr Amgueddfa Dwy Hanner.

Discover more from Wrexham Heritage

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading