Dreigiau a Rhyfelwyr – Arddangosfa Cwpan y Byd Digartref yn agor yn Amgueddfa Wrecsam

Mae arddangosfa sy’n arddangos delweddau a dynnwyd yn ystod Cwpan y Byd Digartref wedi agor yn Amgueddfa Wrecsam – cartref dyfodol Amgueddfa Bêl-droed Cymru.

Mae’r arddangosfa, o’r enw Dragons Warriors – Dreigiau Rufelwyr, yn cynnwys detholiad o ffotograffau, a dynnwyd gan y ffotograffydd o dde Cymru, Nigel Whitbread, yn ystod Cwpan y Byd Digartref 2019, a gynhaliwyd ym Mharc Bute, Caerdydd.

Daw lansiad yr arddangosfa ddiwrnod yn unig cyn dechrau Cwpan y Byd Digartref 2023, sy’n cychwyn yn Sacramento, California, ddydd Sadwrn yma.

Mae Nigel yn disgrifio’r arddangosfa: “Teithiodd mwy na 500 o chwaraewyr yn cynrychioli dros 50 o wledydd i Dde Cymru yn 2019 i fynychu’r ŵyl bêl-droed am ddim wythnos o hyd a gynhaliwyd ym Mharc Bute eiconig Caerdydd, yng nghanol prifddinas Cymru.

“Nod y delweddau a gynhwysir yn yr arddangosfa yw adlewyrchu yn ei graidd a chynrychioli trawstoriad o bobl ddigartref. Sut maen nhw i gyd, er gwaethaf eu gwahaniaethau, yn ceisio goresgyn yr arwahanrwydd oddi wrth weddill y gymdeithas, a sut mae cymryd rhan yng Nghwpan y Byd Digartref yn rhoi ymdeimlad o rymuso iddynt a’r wybodaeth eu bod yn rhan o rywbeth mwy na nhw eu hunain.”

“Wrth bori drwy’r lluniau, gobeithio na fyddwch chi’n edrych ar y boi neu’r ferch ar y stryd mewn ffordd ystrydebol, fel pobol mewn drysau yn gofyn am arian, ond yn syml fel pobol sydd heb gartref i fynd iddo. Gwerthfawrogwch fod yna stori i’w hadrodd am bob un ohonyn nhw ynglŷn â pham maen nhw lle maen nhw a deall bod yna ffyrdd y gall pobl newid eu sefyllfa er gwell o gael y gefnogaeth gywir.”

Pêl-droed fel grym er daioni

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau a Diogelwch Cymunedol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y Cynghorydd Paul Roberts: “Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r arddangosfa hon yn Amgueddfa Wrecsam, cartref Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn y dyfodol.

“Mae’n werth gweld y casgliad pwerus hwn o luniau yn agos. Maent yn enghraifft ysbrydoledig o sut y gellir defnyddio pêl-droed fel grym er daioni, i rymuso cymunedau a thynnu sylw at faterion cymdeithasol brys.”

Mae Dragons Warriors – Dreigiau Rufelwyr bellach i’w gweld ar gwrt blaen Amgueddfa Wrecsam.

Darganfod mwy

Amgueddfa o ddau hanner

Mae’r amgueddfa bêl-droed newydd yn cael ei datblygu ochr yn ochr ag Amgueddfa Wrecsam sydd wedi’i hadnewyddu’n llwyr. Bydd y ddau yn bodoli ochr yn ochr yn adeilad presennol yr amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw – atyniad cenedlaethol newydd sbon yng nghanol dinas Wrecsam.

Bydd yr amgueddfa bêl-droed newydd yn dathlu pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau llawr gwlad i’r timau cenedlaethol, yn ogystal ag amlygu llwyddiannau hanesyddol Wrecsam yn y gamp a dathlu treftadaeth gyfoethog y Fwrdeistref Sirol.

Bydd orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam, sy’n golygu gwell profiad i ymwelwyr a lleoliad modern o’r radd flaenaf ar gyfer darganfod stori hynod ddiddorol a chyffrous ein rhanbarth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Darganfod mwy

Discover more from Wrexham Heritage

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading