CBDC yn rhoi crysau sêr Cymru i gasgliad yr Amgueddfa Bêl-droed

Roedd yr amgueddfa’n falch o dderbyn rhodd bellach gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ym mis Ionawr, yn enwedig rhai crysau gyda thema Wrecsam.


O gêm ragbrofol Cwpan y Byd v Estonia (a enillodd Cymru 1-0 yn Tallinn ar 11 Hydref), rydym wedi derbyn crysau wedi’u llofnodi gan Harry Wilson, Danny Ward a Neco Williams – i gyd wedi eu geni yn Wrecsam.

Cawsant eu cyflwyno i’r amgueddfa gan Lywydd CBDC, Steve Williams, yn y gêm ddiweddar rhwng Bellevue FC a Heddlu Gogledd Cymru yn Nhref Wrecsam, a gynhaliwyd ym Mharc Colliers i gefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025.

Mae casglu deunydd cyfoes o bwysigrwydd gwirioneddol i’r amgueddfa gan ei fod yn gymorth i ddehongli digwyddiadau diweddar sy’n ffres ym meddyliau pobl. Mae’r crysau yn ychwanegiad gwych i’n Casgliad Pêl-droed Cymreig cynyddol!

Discover more from Wrexham Heritage

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading